2015 Rhif 1599 (Cy. 198)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darpariaeth addysg feithrin yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn atgynhyrchu Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 (“Rheoliadau 1999”) i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r cyfnod amser rhagnodedig ar gyfer cwblhau adroddiad arolygu i 45 o ddiwrnodau gwaith o’r dyddiad y dechreuodd yr arolygiad. Mae Rheoliadau 1999 wedi eu dirymu (rheoliad 1(3)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r cyfnod y mae rhaid i adroddiad ar arolygiad o addysg feithrin o dan Atodlen 26 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gael ei wneud ynddo; yr awdurdodau a’r personau y mae rhaid anfon copi o’r adroddiad atynt; a’r ysbeidiau sydd rhwng arolygiadau addysg feithrin o dan yr Atodlen honno (rheoliadau 3 a 4).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2015 Rhif 1599 (Cy. 198)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015

Gwnaed                                     5 Awst 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       10 Awst  2015

Yn dod i rym                              1 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998([1]), a pharagraffau 6B(1)(a) a 13B o Atodlen 26 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 1 Medi 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag addysg feithrin a ddarperir yng Nghymru.

(3) Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)     Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999([2]);

(b)     rheoliad 23 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005([3]);

(c)     rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010([4]); a

(d)     rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014([5]).

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “Brif Arolygydd Cymru” yr ystyr a roddir iddo yn adran 6 o Ddeddf Addysg 1996;

ystyr “y cofrestrydd ysgolion annibynnol” (“the registrar of independent schools”) yw Gweinidogion Cymru;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl banc nac yn rhan o wyliau sy’n hwy nag wythnos a gymerir gan yr ysgol o dan sylw;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “gŵyl banc” (“bank holiday”) yw diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([6]);

mae i “ysgol feithrin” yr ystyr a roddir i “nursery school” yn adran 6 o Ddeddf Addysg 1996([7]).

Adroddiadau arolygu

3.(1)(1) At ddibenion paragraff 13B(1) o Atodlen 26 i’r Ddeddf, y cyfnod y mae adroddiad ar arolygiad o dan baragraff 6B o’r Atodlen honno i gael ei wneud ynddo yw 45 o ddiwrnodau gwaith o’r diwrnod y dechreuodd yr arolygiad.

(2) At ddibenion paragraff 13B(2) o Atodlen 26 i’r Ddeddf, yr awdurdodau a’r personau y mae rhaid anfon copi o’r adroddiad ar arolygiad o dan baragraff 6B o’r Atodlen honno atynt yw—

(a)     yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol—

                           (i)    pennaeth yr ysgol;

                         (ii)    corff llywodraethu’r ysgol; a

                       (iii)    yr awdurdod lleol;

(b)     yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol ag iddi lywodraethwyr sefydledig, y person sy’n penodi’r llywodraethwyr hynny;

(c)     yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol annibynnol—

                           (i)    pennaeth yr ysgol;

                         (ii)    perchenogion yr ysgol;

                       (iii)    y cofrestrydd ysgolion annibynnol; a

                        (iv)    pan fo’r ysgol wedi ei chymeradwyo o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996([8]) (cymeradwyo ysgolion annibynnol sy’n darparu addysg arbennig), awdurdod lleol sy’n talu’r ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(d)     yn achos addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol—

                           (i)    pennaeth yr ysgol;

                         (ii)    perchenogion yr ysgol; a

                       (iii)    awdurdod lleol sy’n talu ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

(e)     yn achos addysg feithrin a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 18 o Ddeddf Plant 1989([9]), yr awdurdod lleol hwnnw a’r person sydd â gofal am y man lle y darperir yr addysg;

(f)      yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson sydd wedi ei gofrestru gan awdurdod lleol o dan adrannau 20 a 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([10]), y person hwnnw a’r awdurdod lleol a’i cofrestrodd;

(g)     yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson y byddai’n ofynnol iddo fod wedi ei gofrestru felly pe bai’r Ddeddf  yn gymwys i’r Goron, y person hwnnw a Gweinidogion Cymru([11]); ac

(h)     yn achos addysg feithrin a ddarperir gan awdurdod lleol mewn cartref i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod lleol hwnnw.

Ysbeidiau rhwng arolygiadau

4.(1)(1) Rhaid i Brif Arolygydd Cymru sicrhau bod addysg feithrin berthnasol yn cael ei harolygu o dan baragraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 i’r Ddeddf—

(a)     pan nad oes arolygiad blaenorol wedi bod o dan y paragraff hwnnw, o fewn 6 blynedd i’r dyddiad y cafodd addysg feithrin berthnasol ei darparu am y tro cyntaf yn y fangre o dan sylw; a

(b)     ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi 2015 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2021 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod dilynol o 6 mlynedd sy’n dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn, y dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf yw dyddiad yr adroddiad ar yr arolygiad diwethaf o dan baragraff 6B o Atodlen 26 i’r Ddeddf.

 

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Awst 2015

 



([1])           1998 p. 31. Diwygiwyd adran 122(1) gan baragraff 33(1) a (3) o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21), a rhoddwyd paragraff 6B yn lle paragraff 6 o Atodlen 26, fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, gan baragraffau 8 a 12 o Ran 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2005 (p. 18). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 138 ac Atodlen 26 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([2])           O.S. 1999/1441.

([3])           O.S. 2005/2913 (Cy. 210).

([4])           O.S. 2010/1436 (Cy. 127).

([5])           O.S. 2014/1212 (Cy. 128).

([6])           1971 p. 80.

([7])           1996 p. 56.

([8])           1996 p. 56.

([9])           1989 p. 41.

([10])         2010 (mccc 1).

([11])         Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.